Hybu arfer gorau ym maes caffael yng Nghymru
GWEITHRED: Cwblhau'r Asesiad Risg Cynaliadwy ar ddechrau'r broses ac ystyried a ellir ymgorffori Manteision Cymunedol.
Nid oes diffiniad cyfreithiol o 'fwyd cynaliadwy'. Fodd bynnag, yn ei Fenter Caffael Bwyd yn y Sector Cyhoeddus, mae Defra'n ei ddiffinio fel "systemau cynhyrchu, prosesu, marchnata, dosbarthu, ac arlwyo" sy'n bodloni'r pum nod cyffredinol canlynol:
• Codi safonau cynhyrchu a phrosesu
• Cynyddu tendrau gan gynhyrchwyr bach a lleol
• Cynyddu'r bwyd iach a maethlon sy'n cael ei fwyta
• Lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol cynhyrchu a chyflenwi
• Cynyddu capasiti ac adnoddau cyflenwyr bach a lleol er mwyn bodloni'r galw
Yn ogystal, mae Comisiwn Datblygu Cynaliadwy'r DU hefyd yn cynnig diffiniad o fwyd cynaliadwy.
Er mwyn i fabwysiadu dull caffael bwyd cynaliadwy fod yn llwyddiannus, mae'n bwysig bod y defnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol yn deall y newidiadau ac yn gefnogol ohonynt.
Cafodd canllawiau caffael bwyd cynaliadwy eu paratoi hefyd gan Gwerth Cymru (Menter Gaffael Cymru gynt) yn 2004 o'r enw 'Cnoi Cil’. Mae'n darparu canllawiau ar y materion sy’n ymwneud â chaffael bwyd yn y sector cyhoeddus - sicrhau gwerth am arian gan fod yn ymwybodol hefyd o'r effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys argymhellion ymarferol ar sut i gaffael mewn ffordd sy'n ystyried y meysydd ehangach ac a fydd yn cynhyrchu'r budd mwyaf i bawb.
Mae'r adran hon yn darparu rhagor o wybodaeth am y meysydd hyn ac yn awgrymu'r camau i'w cymryd ar gyfer caffael bwyd yn effeithiol ac yn gynaliadwy.