Hybu arfer gorau ym maes caffael yng Nghymru
GWEITHRED: Deall sector bwyd Cymru a strwythur y farchnad drwy ddefnyddio gwasanaethau Busnes Cymru.
Modelau Cadwyn Gyflenwi
Rhwydwaith o fentrau busnes sy'n gysylltiedig â bwyd lle mae cynhyrchion bwyd yn symud o'r pridd i'r plât yw cadwyn cyflenwi bwyd.
Gall cadwyni cyflenwi bwyd amrywio o ran cymhlethdod, o rai hir gyda llawer o gysylltiadau i rai byr ac eithaf uniongyrchol. Mae'r Model Cadwyn Gyflenwi atodedig yn dangos y llwybrau posibl sydd ar gael.
Mae dadansoddiadau o gadwyni cyflenwi modern yn aml yn cynnwys cysylltiadau cyn-cynhyrchu fel ymchwil amaethyddol (e.e., ar geneteg) a chysylltiadau ôl-ddefnyddwyr fel gwaredu gwastraff ac ailgylchu.